Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mawrth, 19
Hydref 2021
Amser y
cyfarfod: 13.30
------
Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
Mae'r Llywydd wedi penderfynu y bydd Aelodau, yn unol â Rheol Sefydlog 34.14A-D, yn gallu pleidleisio o unrhyw leoliad drwy ddull electronig.
1 Cwestiynau i'r Prif Weinidog
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.
2 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
(30 munud)
Gweld y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
3 Datganiad gan Weinidog yr Economi: Symud Economi Cymru Ymlaen
(45 munud)
4 Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Cynllun Diogelu Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar gyfer y Gaeaf 2021-22
(45 munud)
5 Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Y Comisiwn Cyfansoddiadol
(45 munud)
6 Datganiad gan Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a’r Prif Chwip: Blaenoriaethau sgiliau Cymru Greadigol ar gyfer y diwydiannau creadigol
(45 munud)
Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar y ddwy eitem ganlynol gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân
(15 munud)
7 Rheoliadau Adeiladau Rhestredig (Cytundebau Partneriaeth Dreftadaeth) (Cymru) 2021
NDM7809 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Rheoliadau Adeiladau Rhestredig (Cytundebau Partneriaeth Dreftadaeth) (Cymru) 2021 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 7 Hydref 2021.
Dogfennau
Ategol
Memorandwm
Esboniadol
Adroddiad y
Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r
Cyfansoddiad
8 Rheoliadau Henebion Cofrestredig (Cytundebau Partneriaeth Dreftadaeth) (Cymru) 2021
NDM7808 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Rheoliadau Henebion Cofrestredig (Cytundebau Partneriaeth Dreftadaeth) (Cymru) 2021 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 28 Medi 2021.
Dogfennau
Ategol
Memorandwm
Esboniadol
Adroddiad y
Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r
Cyfansoddiad
9 Rheoliadau’r Pwer Cymhwysedd Cyffredinol (Diben Masnachol) (Amodau) (Cymru) 2021
(15 munud)
NDM7807 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Rheoliadau’r Pŵer Cymhwysedd Cyffredinol (Diben Masnachol) (Amodau) (Cymru) 2021 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 28 Medi 2021.
Dogfennau
Ategol
Memorandwm
Esboniadol
Adroddiad y
Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r
Cyfansoddiad
10 Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) (Rhif 3) 2021
(10 munud)
NDM7806 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) (Rhif 3) 2021 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 28 Medi 2021.
Dogfennau
Ategol
Memorandwm
Esboniadol
Adroddiad y
Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r
Cyfansoddiad
11 Dadl: Cael gwared â hiliaeth a chreu Cymru wrth-hiliol
(60 munud)
NDM7805 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cefnogi'n llwyr
a) y frwydr fyd-eang i gael gwared ar hiliaeth ac ideoleg hiliol ac yn ymdrechu at sicrhu Cymru fwy cyfartal, gan fynd i'r afael ag anghydraddoldeb hiliol systemig a strwythurol.
b) egwyddorion Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Ddiddymu Pob Math o Wahaniaethu Hiliol (CERD).
2. Yn galw am ddiweddariad gan Gomisiwn y Senedd ar waith datblygu datganiad trawsbleidiol i Gymru sy'n ymgorffori egwyddorion CERD.
3. Yn croesawu dadorchuddio cerflun o Betty Campbell MBE yn Sgwâr Canolog Caerdydd i’w choffáu yn un o Ferched Mawreddog Cymru.
4. Yn croesawu'r Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol ar gyfer Cymru Wrth-Hiliol i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb strwythurol a systemig, ac i hybu cyfleoedd i bobl ddu, Asiaidd ac ethnig leiafrifol yng Nghymru.
Confensiwn Rhyngwladol y Cenhedloedd Unedig ar Ddiddymu Pob Math o Wahaniaethu Hiliol (Saesneg yn unig)
Cymru Wrth-hiliol: Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol i Gymru
Cyd-gyflwynwyr
Darren Millar
(Gorllewin Clwyd)
Sian
Gwenllian (Arfon)
Jane
Dodds (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
12 Cyfnod pleidleisio
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mercher, 20 Hydref 2021